![]() ![]() |
|||||||||||||||||||||||||||||||
![]() ![]() |
|||||||||||||||||||||||||||||||
![]() |
|||||||||||||||||||||||||||||||
|
Heblaw am ei waith gyda Cherddorfa Baroc Cymru, mae Andrew hefyd yn chwarae gyda L'Indiscret, ensemble offerynnau o'r cyfnod baroc (gyda Claire Heaney, ffliwt baroc, Marc Elton, ffidil baroc, Lucy Robinson, viola da gamba); mae e'n gweithio yn reolaidd gyda Buddug Verona James ar Castradiva a sioeau arall; yn chwarae continuo ar gyfer grwpiau arall ac unigolion; a piano ar gyfer yr ensemble cerddoriaeth cyfoes PM.
Kata Ayres sy'n gweinyddu'r gerddorfa, ac ar hyn o bryd mae hi yn gorffen gradd M.Mus. ar y soddgrwth baroc yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae hi yn dysgu a chwarae yn broffesiynol yn ardal De Cymru. Jeremy Badcock yw trysorydd ac ysgrifennydd cyffredinol Cerddoriaeth Cynnar Cymru/Early Music Wales, sydd yn gweinyddu materion ariannol CBC. Mae ef yn denor hyfryd, ac yn aelod gweithgar o Consort de Danse Baroque. Mae aelodau rheolaidd arall CBC yn cynnwys: Matthew Nisbet, gitarydd dawnus a chwareuydd y theorbo, gydag M.A. o Brifysgol Manceinion, nawr yn dysgu cyrsiau ymarferol ac academaidd yn ei hen goleg, CBCDC. Mae ganddo duo offerynnau plicio gyda Daniel Jones, o'r enw 'Campanella'. Sophia McKenna, obo baroc, offerynnwr brofiadol iawn oherwydd ei recordiau di-ri a'r cyngherddau gyda grwpiau offerynnau o'r cyfnod. Mae gan Claire Heaney M.A. mewn ffliwt fodern o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, wedi ennill Cystadleuaeth Takemitsu am berfformio cerddoriaeth newydd yn 1999. Mae hi wedi astudio offerynnau baroc a chlasurol, ac mae galw mawr amdani ar offerynnau o'r cyfnod. Mae hi wedi perfformio yn Neuadd Wigmore a nifer o neuaddau arall, yn arbennig yn y de-orllewin. Lucy Robinson, arbenigwraig cerddoriaeth Ffrengig, Pennaeth Astudiaeth Ol-Raddedigion (Post-Grad) yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, chwareuwr profiadol a phroffesiynaol y ffidil a'r viola da gamba. Astudiodd Lucy dan y chwareuwr fiol Wieland Kuijken, ac mae hi wedi chwarae gydag artistiaid ym Mhrydain, yr Iwerddon, Awstralia a Morocco. Yn ddiweddar, cyfrannodd at argraffiad newydd y 'New Grove Dictionary'. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
| Hawlfraint © 2005 Cerddorfa Baroc Gymreig | |||||||||||||||||||||||||||||||