![]() ![]() |
|||||||||||||||||||||||||||||||
![]() ![]() |
|||||||||||||||||||||||||||||||
![]() |
|||||||||||||||||||||||||||||||
|
Yn cyflwyno mewn ffordd fywiog y profiad o ddefnyddio offerynnau go iawn i wneud cerddoriaeth go iawn, gan sôn am draddodiadau'r gorllewin o'r 15fed tan y 18fed ganrif. Defnyddiwyd offerynnau yn perthyn i deulu'r ffidil, violau, chwythbrennau, ffliwt a continuo (harpsicord, theorbo, gitar baroc) fel y bo agen. Gall hyn arwain at astudiaeth elfennol o sut mae offerynnau acwstig yn gweithio. Yn cyflwyno agweddau ymarferol o gerddoriaeth (dawns, adloniant, crefyddol, caneuon gweithio) gyda enghreifftiau lle gellid arddangos a chymryd rhan. Yn cyflwyno ffurfiau ac arddulliau cerddorol cysylltwyd a digwyddiadau cymdeithasol, er enghraifft: difrifoldeb cerddoriaeth crefyddol 'plainsong' a 'polyphonic', symlrwydd cerddoriaeth dawns i 'grounds' neu strwythurau y pavan a dawnsfeydd gwledig yr 16eg ganrif, cysyniad offerynnau yn efelychu lleisiau mewn cerddoriaeth siambr. Yn cyflwyno ffurfiau baroc: 'recitative' ac aria opera, ymddangosiad ffurfiau dawns y 18fed ganrif. Gall rhain brofi yn enghreifftiau defnyddiol o elfennau modd, gradd a gwead. Gall rhai o'r pynciau uchod cael eu dyfnhau a'u bywioghau gan ganu a dawnsio. Mae CBC yn gweithio gyda arbenigwyr yn y meysydd yma. Cyflwynwyd taflenni gwaith addas ar gyfer y lefel, ac os gofynnir amdanynt, gellid darparu lluniau ar uwchdaflunydd, yn llawn gwybodaeth hanesyddol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||
| Hawlfraint © 2005 Cerddorfa Baroc Gymreig | |||||||||||||||||||||||||||||||