![]() ![]() |
|||||||||||||||||||||||||||||||
![]() ![]() |
|||||||||||||||||||||||||||||||
![]() |
|||||||||||||||||||||||||||||||
|
Sefydlwyd Gerddorfa Baroc Cymru (cyfarwyddwr, Andrew Wilson-Dickson) yn 1992, fel datblygiad o'r grwp amatur cyfnod 'Chwareuwyr a Chantorion y Ddeunawfed Ganrif', a gwrddodd ar gyfer cyrsiau penwythnosol mewn chwarae bar?c, yn aml dan arweiniad Catherine Mackintosh. Ers y 90au cynnar, mae Cerddorfa Baróc Gymreig wedi perfformio cyngherddau proffesiynol o Dy Ddewi yng ngorllewin Cymru, i Eglwys Cadeiriol Llandaf, ac i Fryste, yn recordio am y tro cyntaf yn 2000. Ym Mehefin 2000, ail-lansiwyd y gerddorfa i ganmoliaeth uchel, a diolch i rodd ariannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae hi nawr yn dilyn bywyd cerddorol llawer mwy prysur ar draws Cymru, ac ymhellach. Gweler ein cynlluniau cyngherddau presennol. Mae Cerddorfa Baróc Cymru yn hyblyg, ei maint yn amrywio i fod yn addas ar gyfer amrywiaeth ei arbenigedd - darnau cerddoriaeth cynnar. O ychydig o linynnau a continuo (harpsicord neu organ a/neu theorbo), gall y grwp dyfu hyd at 30 o offerynwyr, gyda chwythbrennau a pres fel y bo angen. Ei nod cerddorol yw chwarae cyffrous a bywiog trwy ymwybyddiaeth hanesyddol, yn defnyddio offerynnau o'r cyfnod ynghyd a dulliau chwarae sy'n cydfynd â nhw. Mae Cerddorfa Baróc Cymru wedi gweithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o'r safon uchaf: Andrew Manze (cyfarwyddwr, Academy of Ancient Music) Rhodddir dilyniant gan aelodau parhaol Cerddorfa Baróc Gymreig gan arweinwyr adrannau ( yn cynnwys Marc Elton, arweinydd, a dan gyfarwyddyd cerddorol y chwaraewr allweddellau, Andrew Wilson-Dickson).
Yn anarferol i grwp offerynnau o gyfnod, mae y CBG yn awyddus i greu cyfleoedd i gyfansoddwyr i ysgrifennu cerddoriaeth newydd iddi, ac i gynnig gweithdai i drafod y problemau a'r posibiliadau arbennig wrth ysgrifennu cerddoriaeth heriol ond ymarferol i offerynnau cynnar. Mae gan y CBG brofiad dwfn mewn Addysg. Mae nifer o'r offerynwyr â graddau cerddorol a tystysgrifau graddedig, gyda nifer yn dysgu yn y maes Addysg Uwch. Mae CBG yn brosiect Early Music Wales/Cerddoriaeth Cynnar Cymru, sydd hefyd yn ei gweinyddu. Mae EMW, Cwmni Cyfyngiedig dan Warantu ( rhif cofrestru 3512903) yn bodoli i gynyddu diddordeb a gweithgarwch yng ngherddoriaeth cynnar. Mae'r gerddorfa yn derbyn cyllid gan Lywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol a gweinyddwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, dan gynllun ar gyfer Cymorthwyo Cerddorfeydd Siambr yng Nghymru. Mae'r Gerddorfa yn ddiolchgar i dderbyn cefnogaeth ariannol parhaol o'r Ymddiriedolaeth Robinson. Cysylltwch â gweinyddwyr y gerddorfa am ragor o fanylion, ac am brisiau cyngherddau a phrosiectau addysgiadol. Os hoffech chi gefnogi gwaith Cerddorfa Baroc Gymreig, a chael eich hysbysu am ei gweithgareddau, ymaelodwch â Cherddoriaeth Cynnar Cymru/Early Music Wales, y gymdeithas sy'n delio a chyllid y gerddorfa, ynghyd â'i weinyddu. Trwy ymaelodi, cewch y boddhad o fod yn aelod o gynulleidfa cynyddol y gerddorfa; fe gewch hefyd brisiau arbennig ar gyfer cyngherddau a gweithgareddau eraill; cewch wybodaeth ynglyn â rhaglen y cyngherddau; a chewch y cyfle i ddylanwadu ar gyfeiriad Cerddorfa Baroc Cymru a Cherddoriaeth Cynnar Cymru/Early Music Wales. Am ragor o fanylion, cysylltwch â Jeremy Badcock ar Jeremy@jbadcock.orangehome.co.uk neu 07989 693734. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
| Hawlfraint © 2005 Cerddorfa Baroc Gymreig | |||||||||||||||||||||||||||||||